Hawliau Claddu Unigryw

Pan fydd person yn prynu bedd neu lain amlosgiad maen nhw’n prynu’r hawliau claddu unigryw ar gyfer y bedd hwnnw; nid ydynt yn prynu’r llain o dir ei hun.

Yr Awdurdod Claddedigaeth fydd yn dal i berchen ar dir y fynwent.

Pan roddir Hawliau Claddu Unigryw nid oes hawl agor bedd neu lain amlosgiad, neu ganiatáu claddu unrhywun yno heb ganiatád y perchennog. Dim ond gan berchennog/perchnogion y bedd a enwir mae’r hawl i osod neu newid unrhyw gofeb ar y bedd.

Os bydd perchennog yn marw mae ganddo’r hawl gyfreithiol i gael ei gladdu yn y bedd a oedd yn eiddo iddo. Os taw dyna’r unig berchennog a enwyd, ni chaniateir claddedigaethau pellach neu osod cofebion tan fod hawliau unigryw y bedd hwnnw wedi cael eu trosglwyddo’n gyfreithlon i berchennog newydd.

Os bydd y berchnogaeth wedi’i rhannu, bydd gan y perchnogion sy’n dal yn fyw yr hawl i wneud penderfyniadau parthed â’r bedd a’r gofeb.

Gall staff y fynwent drosglwyddo perchnogaeth naill ai drwy ddangos dogfen Grant Profiant neu Lythyrau Gweinyddu. Pan na fydd un o’r dogfennau hyn yn ddilys bydd rhaid gwneud y trosglwyddiad drwy Ddatganiad Statudol gan aelod o’r teulu.

Gall yr Awdurdod Claddedigaeth baratoi’r ddogfen Datganiad Statudol parthed â hawliau claddu unigryw, neu efallai y byddai’n well gennych fynd at Gyfreithiwr. Rhaid gwneud y Datganiad o dan lw ym mhresenoldeb Comisiynydd Llwon. Ni fydd yr Awdurdod Claddedigaeth yn codi am baratoi dogfen Datganiad Statudol, ond bydd rhaid talu ffi bychan i’r Comisiynydd Llwon am ei wasanaeth.