Angladd heb wasanaeth Ymgymerwr Angladdau

Mae’n bosibl trefnu angladd eich hunan. O bryd i’w gilydd, byddwn yn derbyn cais am gyngor a gwybodaeth ar sut i fynd ati i drefnu angladd heb gymorth ymgymerwr angladdau.

Mae Cyd-Awdurdod Claddedigaeth Llanelli yn cydnabod hawl yr uniogolyn i drefnu angladd heb ddefnyddio gwasanaeth ymgymerwr angladdau, ac mewn ymateb i’r hawl hon rydym wedi paratoi canllawiau a fydd o gymorth pan yn trefnu’r fath angladd.