Gerddi Coffa
Gall gardd goffa fod yn fan hyfryd a llonydd i chi dreulio amser ynddi i gofio am fywydau eich anwyliaid.
Mae gerddi coffa ar gael ar gyfer claddedigaeth gweddillion a amlosgwyd. Gallwch godi cofebion bach ar y lleiniau hyn.
Gall pob llain ddal hyd at dair set o weddillion a amlosgwyd o dan y ddaear mewn casgedi safonol. Mae’n bosibl prynu dwy lain gyffiniol i greu llain yn fwy ar gyfer teulu.