Eich Dewis wedi Amlosgiad

Nid yw Cyd-Awdurdod Claddedigaeth Llanelli yn rhedeg Amlosgfa, ond rydym yn deall bod llawer o bobl am goffáu a chofio rhywun agos mewn ffordd addas. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu ystod o gyfleusterau sy’n addas at gladdu neu wasgaru gweddillion a amlosgwyd.

Mae ein tîm o weithwyr yn cynnal a chadw’r gerddi i’r safon orau. Caniateir mynediad i’r fynwent 365 diwrnod y flwyddyn ac mae cyfleusterau parcio ger ein holl ardaloedd coffa.

Ni chaniateir gwasgaru neu gladdu gweddillion a amlosgwyd yn unrhywle yn nhiroedd y fynwent heb ganiatád yr Awdurdod Claddedigaeth.