Bedd Lawnt neu Draddodiadol
Mae’n bosibl claddu neu wasgaru gweddillion a amlosgwyd mewn llain gladdu lawnt neu draddodiadol llawn maint.
Mae hyn yn cynnig y cyfle i greu llain deuluol ac i osod cofeb lawnt neu draddodiadol o lawn maint, yn ddibynnol ar leoliad y bedd.
Mae hi hefyd yn bosibl claddu gweddillion a amlosgwyd mewn bedd lawnt neu draddodiadol a brynwyd eisoes cyn belled â bod perchennog yr hawliau claddu yn rhoi ei ganiatád.