Cyfarwyddyd ar Drefnu Angladd

Mae profedigaeth yn gyfnod anodd a bydd angen i chi wneud llawer o benderfyniadau mewn amser cymharol fyr.

Rydym yn gobeithio y bydd y wefan hon yn cynnig gwybodaeth a fydd yn eich helpu wrth i chi wneud y penderfyniadau hynny. Bydd y wybodaeth yn yr adran hon yn cynnig cyfarwyddyd ar sut i gofrestru marwolaeth a threfnu angladd.

Mae claddedigaeth rhywun agos yn achlysur emosiynol a sensitif, ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn diwallu’ch anghenion chi. Yn ystod y cyfnod hwn byddwch fel arfer yn ymgynghori’n agos gyda’ch Ymgymerwr Angladdau. Gallwch hefyd siarad gyda staff y fynwent a fydd yn barod i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych ynglyn â threfnu angladd yn y fynwent, neu ba opsiynau sydd ar gael yn dilyn gwasanaeth yn yr Amlosgfa.