Claddedigaeth

Mae marwolaeth rhywun agos yn ddigwyddiad emosiynol a sensitif, a’n blaenoriaeth ni yw sicrhau ein bod yn cwrdd â’ch gofynion chi.

Mae Mynwent Ardal Llanelli yn darparu beddau ar gyfer claddedigaethau preifat a chyhoeddus, yn ogystal â ar gyfer gweddillion a amlosgwyd. Mae bedd newydd yn gallu dal hyd at ddwy gladdedigaeth. Mae hi hefyd yn bosibl darparu bedd a all ddal hyd at dair claddedigaeth, ond rhaid datgan hyn cyn cynnal y gladdedigaeth gyntaf.

Cyn defnyddio bedd sydd eisoes yn bodoli rhaid sefydlu beth yw’r union ddyfnder, a statws yr Hawliau Claddu Unigryw neu berchnogaeth y bedd. Mae isafswm dyfnder unrhyw fedd wedi’i nodi yn Neddf Statudol, Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol, 1977.