Dewis Dulliau Claddu

Ym Mynwent Ardal Llanelli rydym yn darparu sawl math o fedd. Gelwir y rhain yn fedd lawnt, bedd traddodiadol a bedd coetir.

Mae’r Awdurdod yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cynnig ystod o ddewisiadau yn y fynwent, ac mae’n angenrheidiol eich bod yn ystyried eich blaenoriaethau chi a rhai y teulu. Felly efallai y byddwch am ymweld â’r fynwent cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Bydd ein staff yn falch i fod o gymorth yn eich tywys o gwmpas ac yn trafod yr opsiynau gyda chi.

Os ‘rydych wedi penderfynu ar amlosgiad, gallwch ddewis o bob un o’r dewisiadau sydd ar gael, fel eich bod yn gallu claddu’r gweddillion wedi’r gwasanaeth amlosgu. Mae’r fynwent yn cynnig nifer o wahanol erddi coffa sydd wedi’u cynllunio’n arbennig at bwrpas claddu neu wasgaru gweddillion a amlosgwyd.

Ni chaniateir gwasgaru neu gladdu gweddillion a amlosgwyd yn unrhywle yn nhiroedd y fynwent heb ganiatád yr Awdurdod Claddu.

Mae’r ardaloedd claddu yn y fynwent gyfan yn tueddu i wynebu’r Dwyrain, gan ddal at yr arfer Gristnogol a oedd mewn grym pan ddefnyddiwyd y fynwent gyntaf yn y 1800au. Mae’r Awdurdod hefyd wedi darparu ardal ar gyfer claddedigaethau Moslemaidd, lle y mae’r beddau wedi’u trefnu yn unol â chredoau diwylliannol y ffydd Foslemaidd.