Dewis Cofeb
Mae pwysigrwydd cofeb fel ffordd o goffáu bywyd rhywun agos yn cael ei gydnabod yn gyffredinol ac mae Cyd-Awdurdod Claddedigaeth Llanelli yn cefnogi’r syniad yma.
Felly, rydym am sicrhau bod gennych y dewis ehangaf posib o gofebion i ddiwallu’r angen hwn. I’r perwyl hwn mae’r Awdurdod Claddedigaeth wedi cydweithio a rhwydweithio â seiri maen cofebion lleol, y ‘National Association of Accredited Memorial Masons’ a’r ‘British Register of Accredited Memorial Masons’ i sicrhau bod y dewis ehangaf posib o gynlluniau a deunyddiau ar gael i chi pan fyddwch yn dewis cofeb.
Bydd maint a chynllun y gofeb yn dibynnu ar leoliad y bedd unigol. Bydd eich saer maen yn ymwybodol o reoliadau’r Awdurdod Claddedigaeth ar gyfer pob rhan o Fynwent Ardal Llanelli, ac yn gallu cynghori a’ch arwain chi wrth i chi wneud eich dewis.
Mae’n hanfodol bwysig bod cofebion wedi eu cynhyrchu i safon dderbyniol, ac yn cael eu gosod yn ddiogel er mwyn diwallu safonau a gydnabyddir yn genedlaethol (BS8415), felly mae’r Awdurdod Claddedigaeth yn cadw cofrestr o’r seiri maen cofebion sydd â’r hawl i weithio yn y fynwent.
Cyn cael eu derbyn ar gofrestr yr Awdurdod Claddedigaeth, rhaid i seiri maen cofebion gyrraedd y safonau cydnabyddedig ac ennill a chynnal trwydded oddiwrth y National Association of Memorial Masons neu’r British Register of Accredited Memorial Masons. Gallwch gael rhestr o’r holl seiri maen cofebion sydd wedi’u hawdurdodi i weithio yn y fynwent o’n gwefan neu o swyddfa’r fynwent.
Mae’r Awdurdod yn cynnal rhaglen barhaol o fonitro a phrofi cofebion. Nid yw ein rhaglen diogelwch cofebion yn cynhyrchu unrhyw incwm ac, a dweud y gwir, mae’n golygu cost sylweddol; serch hynny, mae diogelwch yn y fynwent o’r pwysigrwydd mwyaf.
Mae polisi a gweithdrefnau’r Awdurdod Claddediageth parthed â phrofi sefydlogrwydd cofebion yn dilyn canllawiau cenedlaethol.