Bioamrywiaeth

Mae’r fynwent yn cefnogi Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth LLeol Cyngor Sir Caerfyrddin and yn gweithio’n agos gyda Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor Sir.

Mae’r fynwent yn elwa o’r holl amrywiol rywogaethu o goed aeddfed a gwrychoedd sydd wedi’u gwasgaru drwy’r tiroedd ac ar hyd y ffiniau. Yn ogystal â’r gladdfa goetir, yn ddiweddar mae sawl ardal fechan arall o’r fynwent wedi’i dewis er mwyn creu ac annog amgylchedd a fydd yn hybu bioamrywiaeth.

Rydym yn cadw boncyffiau‘r coed sydd angen eu cwympo er mwyn denu pryfed a ffyngau a fydd, yn eu tro, yn denu bywyd gwyllt. Mae’r ardaloedd a ddewiswyd yn cael eu rheoli er mwyn hybu tyfiant blodau gwyllt a gwair a fydd yn denu ac yn cynnal ystod o fywyd gwyllt megis glöynnod byw, pryfed,adar a mamaliaid bach. Ni ddefnyddir plaladdwyr yn yr ardaloedd hyn. Yng ngweddill y tiroedd, rydym yn ceisio defnyddio cyn lleied â phosib o blaladdwr.